Ynghylch

Rydym yn dîm profiadol o dros 20 o Gofrestryddion, sy'n cynnal ac yn cofrestru dros 500 o seremonïau bob blwyddyn mewn amrywiaeth helaeth o leoliadau ledled Bro Morgannwg.

Priodasau, partneriaethau sifil, adnewyddu addunedau a seremonïau enwi: mae gennym y fraint enfawr o rannu'r achlysuron arbennig hyn gyda phobl gyffrous yn union fel chi.

Byddwn yn eich tywys drwy gynllunio eich seremoni fel y gallwch gynnwys yr holl elfennau hynny sy'n golygu fwyaf. Byddwch yn sicr, rydym am i'r diwrnod arbennig hwn fod amdanoch chi.

Rydym wedi ein lleoli yn Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4RU.

Cysylltwch â ni ar 01446 709166 neu 709168. Rydym ar gael bob dydd Llun - Gwener 0930 - 1300 a 1400 - 1600. Fel arall, llenwch ein ffurflen ymholiadau, a byddwn yn cysylltu'n ôl â chi.