Drwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi'r defnydd o'r safle, a helpu yn ein hymdrechion marchnata. Edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth.
Wedi'i leoli ar gyrion tref arfordirol Penarth, mae pentref canoloesol Cosmeston yn cynnig lleoliad unigryw i gynnal eich seremoni briodas.
Wedi'i drwyddedu i gynnal seremonïau sifil, priodasau a phartneriaethau sifil ar gyfer hyd at 120 o westeion, mae'r pentref canoloesol o fewn lleoliad hardd Parc Gwledig a Gwarchodfa Natur Leol Llynnoedd Cosmeston.
Gallwn gynnig ysgubor y degwm, adeiladau hanesyddol eraill, ein gerddi rhosyn a phatio neu ddôl bwrpasol i'w llogi fel lleoliad priodas.
Mae llogi'r lleoliad yn cynnwys parcio am ddim cyfyngedig.